Ers rhai blynyddoedd bellach, rhoddir labeli i wahanol sefydliadau i ddangos i ba raddau y maent yn rhoi cydnabyddiaeth i'r Llydaweg yn eu gweithgareddau, ar eu harwyddion, yn eu llenyddiaeth etc. Y lefel isaf yw 'label 1', a dyma'r un a roddwyd eleni i ŵyl ddiwylliannol Kann al Loar, a gynhelir bob blwyddyn yn Landerne, gefeilldref Caernarfon.
Mae Kann al Loar yn ugain oed eleni a hi yw'r ail ŵyl Lydewig i lofnodi 'r cytundeb 'Ya d'ar brezhoneg'.
Mae Kann al Loar yn defnyddio'r iaith ar bapur ysgrifennu swyddogol yr ŵyl, ar eu tocynnau mynediad, ar y gwahoddiadau, ar dderbynebion etc. Defnyddia logo ddwyieithog ac anfona ddatganiadau dwyieithog i'r wasg. Maes o law bydd gwefan a rhaglen yr ŵyl yn ddwyieithog, a chaiff neges ddwyieithog ei rhoi ar eu peiriant ateb.
3 comments:
Lefel uchaf neu isaf yw 1? Mae'n swnio i fi fod yr wyl hon wedi gwneud joban reit dda (yn enwedig o gofio cyd-destun Llydaw).
yr un isaf - camgymerais innau i ddechrau. Yn gryno:
Label 1: defnyddio cryn dipyn o Lydaweg
Label 2: Rhoi gwasanaeth yn Llydaweg
Label 3: y Llydaweg yn iaith y gwaith
OK - deall y lefelau nawr. Mae'n gwneud synnwyr.
Diolch am esbonio.
Post a Comment