06/03/2009

Cymdeithas Cymru - Yr Alban ?


Mae amryw Gymry'n dysgu Gaeleg yr Alban, ac mae Tecwyn Evans, Is-lywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cymru-Llydaw, yn eu plith.


Hoffai Tecwyn wybod a oes gan Gymry ddiddordeb mewn cynnal ysgol undydd i ddysgwyr Gaeleg, a hefyd mae'n holi a oes gan bobl ddidordeb mewn sefydlu cymdeithas debyg i Gymdeithas Cymru-Llydaw i gydgysylltu dysgwyr Gaeleg yng Nghymru.


Am ragor o wybodaeth, anfoner neges e-bost ato ar gwerin@btinternet.com

No comments: