15/02/2009

Dysgu Llydaweg drwy gyfrwng y Gymraeg - yr ail gam 2009-2010


Mae modiwlau Llydaweg i fyfyrwyr allanol yn cael eu cynnig gan Brifysgol Aberstwyth. Gobeithir y bydd modiwl ail flwyddyn - dysgu sut i ddefnyddio'r dyfodol a'r amodol a llawer mwy - yn cael ei gynnig yn y sesiwn 2009-2010. Bydd cyfres o bump o ysgolion undydd (6 awr ar y tro - 3 y bore a 3 y prynhawn) yn Aberystwyth... a rhydd i unrhyw un roi cais am le. Am fanylion pellach, gweler: http://www.aber.ac.uk/cymraeg-welsh/cymraeg/external.shtml

No comments: