21/02/2009

Dathlu Gwyl Ddewi yn Lannuon (Lannion), Llydaw

Mae Neuadd y Dref, Lannuon, Cymdeithas Efeillio Lannuon-Caerffili, Cymdeithas Llydaw-Cymru, Canolfan Diwylliannol Lannuon a'r Clwb Rygbi wedi dod ynghyd i drefnu dathlu gwyl nawddsant Cymru yn Llydaw.

Ddydd Sadwrn, 21 Chwefror, bydd arddangosfa ar y cysylltiadau morwrol rhwng Cymru a Llydaw yn agor yn oriel y Mediatheque. Bydd sgwrs ar y pwnc rhwng 5pm a 6pm.

Nos Sadwrn bydd cyngerdd am 8.15pm gyda'r deuawd Cariad yng nghapel y Santes Anna.

Ddydd Mercher, 25 Chwefror, dangosir y ffilm Hedd Wyn am 8pm yn neuadd gynadleddau Canolfan Jean Savidan.

Ddydd Gwener, 27 Chwefror, bydd cyfle i wylio'r gem rhwng Ffrainc a Chymru ar sgrin fawr yn neuadd gynadleddau Canolfan Jean Savidan, am 9pm.

Ar Ddydd Gwyl Ddewi ei hun bydd gwersi Cymraeg yn cael eu rhoi fel rhan o Festi langues. Yn yr Enssat y bydd y gweithgaredd hwn.

No comments: