Bydd cwrs haf K.E.A.V. i ddysgwyr Llydaweg - i ddysgwyr o bob math ar wahân i ddechreuwyr - yn cael ei gynnal yn 2009 yn Lise ar Stêr Aon (ysgol uwchradd amaethyddol a garddwriaethol) yn Kastellin (Châteaulin).
Dyma'r cwrs gorau i Gymry sy'n dysgu Cymraeg am mai yn Llydaweg y cynhelir yr holl wersi a'r gweithgareddau.
Gellir mynychu un o ddwy sesiwn, neu'r ddwy. Y dyddiadau yw: 5 - 11/07/09 ac yna 12 - 18/07/09.
Y pris am bob dim (gwersi, llety a bwyd) yw 240 € y sesiwn.
200 € i fyfyrwyr ac i bobl ddi-waith.
Manylion pellach gan:
KEAV – 22 hent Mouliouen29000 KEMPER
Pellgomz : 02 98 95 59 31
E-bost : keav@wanadoo.fr
Gwefan: http://www.keav.org/
Peidiwch â'i gadael yn rhy hwyr os ydych am fod yn sicr o gael lle!
No comments:
Post a Comment