15/09/2008

Llydawyr am gyfnewid cartref adeg Eisteddfod y Bala - 2009

Rwyf i a’m gŵr am fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ddechrau mis Awst y flwyddyn nesaf (2009). Hoffem aros yng Nghymru am bythefnos: wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst, i gael mynd i gerdded yn y mynyddoedd, yn ogystal ag i fynychu’r Eisteddfod.

Rydym wedi cyfnewid tŷ lawer gwaith o’r blaen (â phobl yn Nghymru, yn yr Iseldiroedd, ac ym Mhortiwgal) ac wedi mwynhau’r ffordd honno o ddod i adnabod y wlad a’r bobl leol.

Yn Kemper (Quimper) mae ein cartref ni, mewn man tawel a gwledig, ychydig y tu allan i’r dref – rhyw 3 c’hilometr o’r canol.

Mae Kemper yn dref weddol o faint (tua 60,000 -70,000 o bobl), yn Ne-Orllewin Llydaw, rhyw 20 cilometr o’r môr a thraethau mawr, hyfryd. Lle hynod fywiog yw Kemper yn yr haf, gyda gwyliau gwerin niferus yn y drefei hun ac mewn mannau cyfagos.

Os yw’r syniad o gyfnewid eich tŷ yn apelio atoch ar gyfer yr adeg a nodwyd, a wewch anfon neges e-bost atom, os gwelwch yn dda: anna.ar.beg@wanadoo.fr


Anna ar Beg

No comments: