Yn ddiweddar, ’roedd yn edrych fel pe bai Cyfansoddiad Ffrainc i gael ei newid er mwyn cydnabod bod ieithoedd fel y Fasgeg a’r Llydaweg yn rhan o etifeddiaeth ddiwylliannol Ffrainc, ond ar 18 Mehefin, 2008, gwrthododd Senedd Ffrainc dderbyn y diwygiad i’r Cyfansoddiad. Llwyddodd yr Académie Française i berswadio’r gwleidyddion bod yr ieithoedd bach yn fygythiad i’r Ffrangeg. Mae’n debyg mai drwy chwyldro yn unig ac nid drwy drefn wleidyddol mae cael pethau i newid yn Ffrainc!
No comments:
Post a Comment