07/01/2012

Yn ei hiaith mae cof-faen hon

Ar 7 Tachwedd, 1981, bu farw Anjela Duval, yr amaethwraig o fardd o dyddyn Traoñ-an-dour, ym mhlwyf ar C’houerc’had, Treger. Gwraig unigryw oedd hon, oherwydd nid oes yn Llydaw draddodiad barddol gwledig tebyg i’r un a geir mewn mannau yng Nghymru. Yn Llydaweg yn unig, canai’n angerddol am ei gwlad, am ei hiaith ac am fyd natur a dywed mewn un gerdd mai’r hyn y dymunai ei gael ar ei bedd oedd ‘blodau fy gwlad’, y blodau gwyllt a welai o’i chwmpas ar hyd ei hoes.

Ddeng mlynedd ar hugain wedi ei marwolaeth, ar 6 Tachwedd, 2011, dyma gofeb iddi’n cael ei dadorchuddio ar sgwâr ar C’houerc’had. Cerflun o Anjela Duval ei hun yw’r gofeb ac fe’i gwnaed gan ŵr lleol, Roland Carrée.

Yn ddiau, gwych o beth yw coffáu llenorion a chofio am y rhai a fu’n cyfrannu i ddiwylliant Llydaw ac mae cerflun, fel arfer, yn ffordd ardderchog o ddathlu gwaith yr ymadawedig. Eto i gyd, rhaid imi ddweud, wedi gweld ffotograffau, efallai nad dyma’r cerflun gorau. Mae’n edrych fel pe bai wedi ennill pwysau, ac ni chyflëir yr egni a’r bywiogrwydd a oedd yn ei nodweddu. Y mudiad “Chas plasenn Anjela Duval”, sydd yn gweithio drwy’r Ffrangeg, fe ymddengys, a bwrw golwg ar eu gwefan, a oedd yn gyfrifol am godi’r cerflun.


http://chatnoirdu56.voila.net/page54.htm http://languebretonne.canalblog.com/archives/2011/10/24/22461356.html .

Mae cymdeithas arall a ffurfiwyd i’w choffáu, Mignoned Anjela, wedi rhoi ei holl waith ar y We: http://www.breizh.net/anjela/

Llun: http://scd-actus.univ-rennes2.fr/archives/17689

No comments: