07/01/2012

Eto rhaid paratoi i’r ras

IMG_2543 by www_ukberri_net
IMG_2543, a photo by www_ukberri_net on Flickr.

Bydd y drydedd Redadeg (ras) yn cael ei chynnal rhwng 12 a 19 Mai, 2012, gyda phob cilometr yn cael ei noddi, gan gymdeithasau a chan unigolion, er mwyn codi arian at fudiadau sydd yn gweithio dros y Llydaweg. 600 metr oedd hyd y ras gyntaf, yn ôl yn 2008, 1200 oedd yr ail yn 2010, a 1500 fydd ras eleni. Yr arwyddair a fabwysiadwyd i’r Redadeg eleni yw “Brezhoneg ha plijadur” (Llydaweg a hwyl), a chyfansoddwyd cân arbennig i’r achlysur gan Dom Duff.

Y pennaf gwahaniaeth rhwng Ras yr Iaith eleni a’r rhai a fu o’r blaen yw bod pwyslais ar ddilyn yr arfordir y tro hwn. Bydd yn cychwyn o Frest ac yn cyrraedd pen ei thaith yn Douarnenez ar 19 Mai. Pwy sydd angen y Gemau Olympaidd pan fo’r Redadeg ar gael?

Yn ariannol, y nod yw codi 120,000 €. Aiff hanner yr enillion i Diwan a rhennir y gweddill rhwng saith corff arall, sef Brezhoneg er magourioù (Llydaweg yn y Feithrinfa – cynllun gan fudiad Divskouarn), Teatr evit tout an dud (Theatr i bawb – gan C‘hoariva), Video pa garo (Fideo pan fynno – menter gan fudiad Dizale), C’hoari gant mojennoù Breizh (Chwarae â chwedlau Llydaw – gan Oaled Landelo), Levrioù diembann evit ar vugale (Llyfrau heb eu cyhoeddi – cynllun mudiad Sav-Heol), Foetañ bro Leon e brezhoneg war varc’h-houarn (Crwydro Leon yn Llydaweg ar gefn beic – cais a wnaed gan Ti ar Vro lLeon), ac Ul liorzh c’hoariva ma tiwan ar c’hejadennoù ennañ (Gardd ddrama y bydd cyfarfyddiadau’n egino ynddi – cynllun gan Teatr Piba).

No comments: