13/04/2011

Trwy'r Llygad Celtaidd



http://www.flickr.com/photos/bara-koukoug/5699190725/in/photostream/

Bydd baner Gwenn ha Du Llydaw yn chwifio'n falch o ben to Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn 16 Ebrill i ddathlu arddangosfa arbennig o’r enw 'Trwy'r Llygad Celtaidd'.
Yn yr arddangosfa gwelir gwaith dau artist swrrealaidd, y naill yn Gymro - John Welson o Abergwaun - a'r llall yn Llydawr - Jean-Claude Charbonel.


Bydd Jean-Claude, sy'n medru Llydaweg, a'i wraig, Suzel Ania, yn teithio i Gymru yn unswydd ar gyfer y lansiad. Agorir yr arddangosfa gan siaradwr Llydaweg arall, y cyflwynydd teledu a'r bardd, Aneirin Karadog.

Bydd Gwenno Piette o Aberystwyth yn cyfieithu ar ran Jean-Claude.

Mae croeso i chi i ddod i'r lansiad. Bydd am 2.00 ddydd Sadwrn, 16 Ebrill, yn y Llyfrgell. Bydd yn gyfle i chi i ymarfer eich Llydaweg ac i fwynhau gwydraid o win neu o sudd wrth fyfyrio dros y gwaith celf

No comments: