08/03/2011

Y Llydaweg ar lan Llyn Tegid

Llwyddiant mawr oedd penwythnos Cymdeithas Cymru-Llydaw yng Nglan-llyn, 4-6 Mawrth, 2011, ac efallai mai awgrym o hynny yw nad wyf eto wedi cyfrif faint yn union a oedd yn bresennol… rhyw 25, ’rwy’n credu. Daeth rhai am y diwrnod neu am y Sadwrn a’r Sul ond bu’r rhan fwyaf ohonom yno o amser swper ar y nos Wener tan ar ôl y cyfarfod cyffredinol ar y prynhawn Sul.

Noson gymdeithasol a gafwyd ar y Gwener a phawb yn cael cyfle i ddweud tipyn bach amdano ei hun. Y peth hynotaf, mae’n debyg, oedd bod Nic a Sarian ill dau’n dathlu eu pen blwydd y diwrnod hwnnw. Gan fod Nic wedi dod â chyflenwad go dda o win, ac am fod peth cwrw gennym hefyd, ’roedd tafodau pawb yn llawer parotach i fentro siarad yr iaith yr oedden nhw’n ei dysgu. ’Roedd y criw o Lydawiaid a oedd wedi dod draw o Lydaw eisoes wedi cael croeso cynnes iawn ym Merthyr Tudful gyda Jamie Bevan. ’Roedd Llydawiaid eraill, tri o’r chwech sydd ar flwyddyn Erasmus ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef Tudeg, Riwanon ac Annwen, wedi dod i ofalu am y dosbarthiadau Llydaweg, a Janig Bodiou wedi teithio o Lanilltud Fawr i gymryd y rhai mwyaf rhugl yn yr iaith. Gobeithiai aelod sydd gennym yn Rwsia ddod ar y cwrs hefyd ond gwrthododd y llywodraeth Brydeinig roi fisa iddo i deithio, am nad yw Cymdeithas Cymru-Llydaw ar y rhestr o gyrff y maent yn eu cydnabod!

’Roedd bron pawb yn awyddus i ddechrau ar y gwersi ar ôl brecwast ar y bore Sadwrn: un dosbarth o Lydawiaid yn dysgu rhagor o Gymraeg a dau ddosbarth o Gymry’n gwella eu Llydaweg. ’Roedd hefyd un ddechreuwraig y trefnwyd iddi gael cymorth ar ei phen ei hun am ran o’r amser. Yn y cyfamser, manteisiodd Annwen, Tudeg, Riwanon a Richard ar gynnig yr Urdd i fynd â ni ar daith ar y llyn yn y Brenin Arthur.

Wedi cinio cynigiwyd cwrs dringo rhaffau yn y goedwig, ond am ryw reswm nid oedd neb am fentro gwneud y fath beth… Yn ôl i’r gwersi, felly, ac wedi cael swper a nofio yn y pwll - wel, ’roedd dau ohonom wedi mynd i mewn (cynnydd o 100% ar y tro diwethaf y buom yng Nglan-llyn) - aethpwyd â ni mewn bws (dwy siwrnai am ein bod mor niferus) i Blas-coch, y Bala. Rhyngom ni a’r bobl leol ’roedd y lle’n bur llawn a chafodd rhai ohonom gwrdd â Chris, cymeriad hwyliog o amharchus… Bu grŵp Gwyddelig yn perfformio yn y dafarn, Shandy Folk, a’r canu wrth fodd y rhan fwyaf ohonom, er ei fod ychydig yn rhy swnllyd i rai. Braf oedd eu clywed yn rhoi cynnig ar ganu Calon Lân yn Gymraeg.

Er i ambell un o bobl y cwrs aros ar ddi-hun yn cloncian hyd oriau mân y bore, cododd pawb fore trannoeth, naill ai i fynd ymlaen â rhagor o wersi Llydaweg – rhai yng ngofal Riwanon, Janig a Tudeg, os cofiaf yn iawn – neu i fynd ar daith gerdded ar Lwybr Cynwch, nid nepell o Ddolgellau. A’r tywydd yn wirioneddol braf ’roedd pawb wrth ei fodd.

Ar y prynhawn Sul cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Cymru-Llydaw. ’Roedd llawer mwy yn bresennol nag arfer, ond ni newidiwyd dim o’r swyddogion eleni. Y flwyddyn nesaf, efallai? Mae’n dda breuddwydio…

Yr eitem bwysicaf ar yr agenda oedd Eisteddfod Genedlaethol 2011. Wedi manwl drafod y mater penderfynwyd na fyddem yn cynnal stondin yn yr Eisteddfod eleni, yn bennaf am fod y rhai sydd yn gyfrifol amdani, bob tro, yn teimlo ei bod yn bryd cael seibiant. Dylid nodi hefyd mai peth costus iawn yw cynnal stondin erbyn hyn. Penderfynwyd ar yr un pryd y byddai stondin gennym yn bendant yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012.

Fel golygydd “Breizh-Llydaw” eglurais na fyddwn yn ceisio cynhyrchu cylchgrawn mor gyflawn ag yn y gorffennol wedi rhifyn yr Eisteddfod eleni ac mai rhywbeth tebycach i gylchlythyr fyddai “Breizh-Llydaw”. Ni olyga hynny nad oes croeso am gyfraniadau o bob math, ond ni fydd ymdriniaeth mor fanwl â’r newyddion (sydd yn aml yn hen beth bynnag) a chan amlaf mae’n debyg na cheisir cael cydbwysedd rhwng y ddwy iaith drwy gyfieithu darnau.

Mae un peth arall y dylid ei grybwyll, sef cwrs preswyl 2012, oherwydd derbyniwyd y cynnig y dylai cwrs preswyl y flwyddyn nesaf gael ei gynnal yn Llydaw, ym mis Ebrill, ac efallai yn Karaez (Carhaix). Bydd yn ddiddorol gweld faint o Gymry a fydd am fynd draw i Lydaw ar gyfer cwrs 4 noson i wella eu Llydaweg ac i weld y wlad.

I gloi, hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth i Lan-llyn a i staff y Gwersyll Urdd Gobaith Cymru am eu croeso arbennig ac am eu gwaith gwych wrth ofalu amdanom.

No comments: