Ar ddiwedd 2010, gan Yoran Embanner, cyhoeddwyd “Atlas des Nations sans État en Europe” (Atlas y Cenhedloedd yn Ewrop heb Wladwriaeth ), gwaith wedi ei olygu gan Mikael Bodlore-Penlaez.
Dywed Mikael, sydd yn gweithio ers 11 mlynedd ar y wefan Eurominority.org, mai rhai amrywiol iawn, o ran eu hanes, eu grym a’u hawydd i’r dyfodol, yw’r bobloedd a gyflwynir yn yr atlas. I wladwriaeth, mae pob dim yn eithaf diamwys: mae pethau swyddogol a dyna fe! I’r gwrthwyneb, mae’r cenhedloedd heb wladwriaeth yn aml yn rhanedig a heb ddim sydd yn swyddogol. Nid oedd am afer y gair “lleiafrif” gan nad lleiafrifol yw pob gwlad heb wladwriaeth, e.e. cenedl yw’r Catalaniaid ac nid lleiafrif mohonynt yn eu gwlad eu hunain. Dyna paham y dewiswyd defnyddio “cenhedloedd” ac nid “lleiafrifoedd” yn y teitl. Dywed nad yw “cenedl” o anghenraid yn gyfystyr â phobl a all gael grym iddi ei hun. Cymuned hanesyddol a diwylliannol yw “pobl”, a di-fudd yw hollti blew am y gwahaniaeth rhwng y gwahanol dermau.
Gellir gweld yr atlas yn waith gwleidyddol, gan ei fod yn trafod materion fel statudau, rhanbarthau ac ieithoedd, ond mewn ffordd syml a phlaen. “Gwell gen i alw fy ngwaith yn un ‘militant’ (milwriaethus),” meddai, “gan fod y gair hwnnw’n atgoffa dyn o frwydr undebwyr.”
Mae sôn am drosi’r atlas i Saesneg, i Gatalaneg, i Bwyleg ac mae’n debyg i ieithoedd eraill.
Wrth gael ei holi ar gyfer y cylchgrawn Llydaweg “Bremañ”, gofynnwyd i Mikael pa syniad yr hoffai i’w ddarllenwyr ei gael wrth ddarllen ei waith, a’i ateb: “Nad peth gwael yw ymreolaeth.”
No comments:
Post a Comment