Dau o’r tiwtoriaid a fydd yn dysgu ar y penwythnos i ddysgwyr Llydaweg,
o ddydd Gwener, 4 Mawrth, tan ddydd Sul, 6 Mawrth,
2011, yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, y Bala.
Cwrs i ddysgu Llydaweg neu benwythnos i siarad Llydaweg. Croeso i bawb.
£107 y pen = bwyd a llety a gweithgareddau + £28 = y gwersi (sawl safon, yn ôl y galw), ond £22 yn unig i aelodau o Gymdeithas Cymru-Llydaw ac i fyfyrwyr amser llawn [aelodaeth £8]: felly £135 neu £129
... yn rhatach nag yn 2009!
I fod yn sicr o gael lle rhaid i Lan-llyn gael gwybod faint ohonom sydd am fynd yn awr, oherwydd os bydd lleoedd gwag ar ôl cânt eu cynnig i gymdeithasau ac i sefydliadau eraill.
Anfonwch neges ataf os hoffech ddod !
No comments:
Post a Comment