12/11/2010

Herve ar Bihan yn Aberystwyth

Bydd Herve ar Bihan, darlithydd Llydaweg ym Mhrifysgol Roazhon (Rennes) 2, yn Aberystwyth ar y 23ain o Dachwedd a bydd yn barod i siarad yn Llydaweg â myfyrwyr sy’n dysgu’r iaith. Gellwch ofyn cwestiynau iddo am yr iaith, am y brifysgol yn Roazhon. am ei fywyd a’i waith, am Lydaw... Mae Herve’n medru Cymraeg, felly gall egluro yn Gymraeg os na ddeallwch rywbeth.

Gorau po fwyaf o bobl a all ddod, felly estynnir gwahoddiad i unrhyw un sydd yn dysgu’r iaith i ddod hefyd.

Bydd y cyfarfod ar ddydd Mawrth, 23 Tachwedd, am 1.10pm, yn yr Ystafell Gymraeg
.

Herve sydd ar y dde yn y llun.

No comments: