19/10/2010

CWRS PENWYTHNOS MAWRTH 2011 YNG NGLAN-LLYN - MYNNWCH LE ’NAWR!

Penwythnos Llydaweg,
o ddydd Gwener, 4 Mawrth, tan ddydd Sul, 6 Mawrth,
2011,
yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn,
y Bala

Cwrs i ddysgu Llydaweg neu benwythnos i siarad Llydaweg.
Croeso i bawb.

£107 y pen = bwyd a llety a gweithgareddau + £28 = y gwersi (sawl safon, yn ôl y galw), ond £22 yn unig i aelodau o Gymdeithas Cymru-Llydaw ac i fyfyrwyr amser llawn [aelodaeth £8]: felly £135 neu £129
... yn rhatach nag yn 2009!

I fod yn sicr o gael lle rhaid i Lan-llyn gael gwybod faint ohonom sydd am fynd yn awr, oherwydd os bydd lleoedd gwag ar ôl cânt eu cynnig i gymdeithasau ac i sefydliadau eraill.

Er mwyn inni wybod hynny, gofynnwn ichi anfon siec am £25 yn daladwy i Cymdeithas Cymru-Llydaw at ein trysorydd (Niclas ap Glyn, 90 Plassey Steet, Penarth, Bro Morgannwg CF64 1EN) erbyn 26 Tachwedd, 2010. Cedwir lle ichi wedyn. Anfonwch neges e-bost ataf i rhh@aber.ac.uk hefyd fel y gallaf lunio rhestr o’r enwau.

No comments: