08/09/2010

Anrhydeddu Pedwar Llydawr

Anrhydeddau'r Goler Ermin, 2010

Bob blwyddyn dyfernir anrhydedd y Goler Ermin i bedwar o bobl sydd wedi cyfrannu i ddiwylliant Llydaw. Y rhai a anrhydeddwyd eleni oedd:

Catherine LATOUR

Fe’i ganwyd ym Mharis yn 1948 a daeth i gymryd rhan yn y mudiad diwylliannol Llydweig diolch i ddylanwad ei hewythr a’i modryb. Daeth yn aelod o Korollerien Breiz-Izel (Dawnswyr Gorllewin Llydaw) yn 1964 a bu wedyn yn weithgar gyda’r cylch Dugelez Breiz ym Mharis a chyda Kendalc’h Breizh (Cydffederasiwn Diwylliannol Llydaw). Fe’i derbyniwyd i Orsedd Llydaw yn 1979. Symudodd i Lydaw, i weithio i Ti-Kendalc’h, yn 1982, ac wedi i’r sefydliad hwnnw wynebu problemau ariannol difrifol, bu’n gweithio iddo yn wirfoddol. Fe’i penodwyd yn gadeirydd Kendalc’h yn 2006.

Annaig RENAULT (yn y llun)

Mae llawer ohonom yng Nghymdeithas Cymru-Llydaw yn adnabod Annaig o’r cyfnod y byddai’n dod i gynrychioli Skol-Uhel ar Vro ar stondin y Gymdeithas yn yr Eisteddfod. Fe’i ganwyd hithau ym Mharis, lle yr oedd ei rhieni wedi mynd i astudio ac wedi ymsefydlu wedi gorffen eu cwrs addysg. Cymerodd ran ym mudiad Sgowtiaid Bleimor, a ysbrydolwyd yn rhannol gan lwyddiant Urdd Gobaith Cymru, a darganfod yno’r pleser o seinio ar y cyd gyda cherddorion eraill. Lluniwyd telyn iddi gan Jord Chochevelou.

Dechreuodd ddysgu Llydaweg yn 7 oed gydag Ivona Galbrun, ym Mharis. Bu hefyd yn dysgu gydag Yann gKerlann, y Llydawr a sefydlodd yr ysgol gynradd Lydaweg gyntaf adeg yr Ail Ryfel Byd ac a erlidiwyd wedi’r Rhyfel gan awdurdodau Ffrainc. Bu cyrsiau KEAV (Kamp Etrekeltiek ar Vrezhonegreien) a gwersi ym Mhrifysgol Roazhon hefyd o gymorth mawr iddi i roi sglein ar ei Llydaweg.

Dychwelodd i Lydaw yn 20 oed a dod yn is-reolwraig Canolfan La Briantais yn Sant-Maloù (Saint Malo). Rhwng 1991 a 2000, hi a oedd yn brif ysgrifennydd Sefydliad Diwylliannol Llydaw (Skol-Uhel ar Vro).

Yn Llydaweg, yn ogystal ag ysgrifennu cerddi a straeon byrion - y mae dwy ohonynt wedi cael eu cyfieithu i’r Gymraeg a’u cyhoeddi yn y cylchgrawn ‘Taliesin’, - mae wedi ysgrifennu argraffiadau teithio a nofel. Yn Ffrangeg mae ei llyfr diweddaraf, ‘Le Dieu Vagabond’ (2010). Mae hefyd wedi ysgrifennu doethuriaeth ar waith y bardd Llydaweg Maodez Glanndour ac yn gweithio bellach ar hanes sgowtiaid Bleimor.

André CHÉDEVILLE

Fe’i ganwyd yn 1935, ym Mharis, ond aeth gyda’i deulu i Naoned (Nantes) i fyw yn 1940. Oddi ar 1960 bu’n darlithio ar hanes yr Oesoedd Canol ym Mhrifysgol Roazhon (Rennes). Bu’n is-gadeirydd y Brifysgol rhwng 1991 a 1995. Bu farw ar 12 Mehefin eleni, cyn seremoni’r Goler Ermin.

Donatien LAURENT

Ym Mrest ac yn Naoned (Nantes) y mae gwreiddiau teuluol Donatien Laurent ond fe’i ganwyd yn Belfort yn 1935. Dysgodd Lydaweg ym Mharis gyda gweithwyr ysgol Bossuet. Bu’n dilyn dosbarthiadau Yann gKerlann a Bachellery a hefyd ymunodd â Sgowtiaid Bleimor. Gyda hwy yr ymwelodd â Chymru ac â’r Alban a dod hefyd i seinio’r pibau Llydewig (binioù).

Aildaniwyd ei ddiddordeb yn y Llydaweg wedi iddo gael damwain ac aros am 18 niwrnod yn anymwybodol. Cafodd le yn y CNRS (Canolfan Genedlaethol Ffrainc i Ymchwil Wyddonol) ac fe’i penodwyd yn bennaeth y CRBC (Canolfan Ymchwil Lydewig a Cheltaidd), ym Mrest. Mae’n adnabyddus am y gwaith manwl a thrylwyr a wnaeth ar lawysgrifau Kervarker (La Villemarqué), golygydd ‘Barzhaz Breizh’. Ar hyn o bryd mae’n goruchwylio cyhoeddi llawysgrifau Le Diberder o ardal Gwened (Vannes).

No comments: