09/03/2010

Codi'r hen wlad yn ei hôl - Etholiadau lleol a 'Ni ho savo Breizh'

Ar wefan Agence Presse Bretonne ar hyn o bryd ceir cyfweliad â Kevin Jezequel, un o’r ymgeiswyr sydd yn sefyll yn yr etholiadau lleol ar y rhestr i ymgeiswyr sydd wedi mabwysiadu'r teitl Ni ho savo Breizh / Nous te ferons Bretagne (Fe’th godwn, Lydaw). Yn y rhestr ceir pobl o Blaid Llydaw (Strollad Breizh / Parti Breton), o'r Chwith amgen, o'r mudiad « Sous le Chêne Vert », yn ogystal ag ecolegwyr, undebwyr, gweithwyr, ac eraill. Yn wahanol i Blaid Cymru, sydd bellach o blaid atomfeydd, mae ymwrthod ag ynni niwclear yn elfen amlwg yn rhaglen y gwleidyddion hyn.

Brodor o Tredarzeg ym Mro-Dreger (Trégor) yw Kevin Jezequel, ac mae newydd orffen semester fel myfyriwr Erasmus yn y Ffindir. Mae’n aelod o Blaid Llydaw (Strollad Breizh / Parti Breton) er 2006, ac yn llefarydd ar ran ieuenctid y mudiad.

Dywed ei fod am fod yn ymgeisydd ar restr Ni ho savo Breizh / Nous te ferons Bretagne am ei fod o’r farn ei bod yn bwysig i’r Llydawiaid siarad ag un llais er mwyn mynd rhagddynt i lwyddo mewn modd tebyg i’r Albanwyr neu’r Catalaniaid, i greu gwaith yn Llydaw, i ddatblygu’r economi ac i gadw gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid, meddai, i’r wlad ddangos ei bod yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun a pheidio ag aros yn ei hunfan gan gwyno ‘na allwn wneud dim’.

Un broblem neilltuol y tyn Jezequel sylw ati yw’r algâu gwyrdd sydd yn anharddu glannau Llydaw, yn enwedig ym Mro-Dreger. Mae’n arwydd amlwg o lygredd amaethyddol ac mae hefyd yn cadw twristiaid i ffwrdd.

Mae’r angen i wella cysylltiadau rhanbarthol ar y rheilffyrdd yn bwnc arall sydd o bwys, meddai, a sicrhau prisiau arbennig i bobl ifainc sydd yn eu defnyddio. Problemau eraill o bwys y cyfeiria atynt yw methiant Llydawiaid ifainc i gael hyd i lety mewn sawl man, am fod prisiau wedi codi mor ddychrynllyd o uchel, a’r angen i gynnal prifysgolion Llydaw ac i wneud yn siŵr bod Llydawiaid ifainc yn cael y cyfle i deithio i astudio mewn rhannau eraill o Ewrop.

Gwefan Ni ho savo Breizh:


Llydaweg

http://regionales.partibreton.org/file/pgr-rannvro_NHSB.pdf

Ffrangeg


http://regionales.partibreton.org/file/Programme-Regionales-NTFB-25-01-2010.pdf

Y cyfweliad:
http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=17673


No comments: