22/02/2010

Cystadlu brwd i gyfansoddi haiku

Mae cystadleuaeth haiku gŵyl Taol Kurun yn Kemperle (Quimperlé) newydd ei chynnal. Bernez Tangi, Brigitte Kloareg a Malo Bouessel du Bourg oedd y panel a fu’n beirniadu’r cynigion.

Daeth 350 haiku i law, gan 184 o gystadleuwyr ac mewn pedair iaith, sef Llydaweg, Corseg Ffrangeg a Galöeg (iaith Ladinaidd Dwyrain Llydaw).

Yn Llydaweg, dyfarnwyd y wobr gyntaf yn adran yr oedolion am hon, gan Huguette Gaudart:

Ruzadenn ma zreid
ero hir war an draezhenn
ar mor ziverk ma buhez.


(Llusgo fy nhraed
Rhigol hir ar y traeth
Dilea’r môr fy mywyd)

Aeth y wobr gyntaf yn adran y plant i Ronan Bergot, am hon:

Tud ar ragistor
gant o zreid diarc'hen
stanket er skorn da viken.


(Pobl cynhanes
Â’u traed noeth
Wedi eu dal yn yr iâ am byth)

Manylion y cystadlu a rhagor o’r cyfansoddiadau: http://www.agencebretagnepresse.com/fetch.php?id=17456

No comments: