01/10/2009

Holi am wybodaeth am Gareth Prytherch - yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd

Mae Siôn Jobbins, yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn awyddus i gael gwybod pwy yw Gareth Prytherch, awdur yr erthygl yma am Lydaw yn y Cymro - cylchgrawn gan garcharorion Cymreig a ddaliwyd yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

http://www.llgc.org.uk/digitalmirror/cyl/CYL00001/32/unigol.html?lng=cy

'Mae'n rhyfeddol i'r fath erthygl gael ei sgwennu mewn gwersyll i garcharorion Rhyfel yng nghanol yr Ail Ryfel Byd,' meddai.

A all rhywun ei helpu?

1 comment:

D. Llewelyn Williams said...

Mae Gareth Prytherch yn byw yn Vancouver Canada ers hanner canrif, ac yn aelod o Gymdeithas Gymraeg y ddinas. Dydd Sul, y 14 o Fawrth,2010, siaradodd gyda Dei Tomos yn ei raglen ar BBC Radio Cymru dros ei amser fel carcharor yn yr Ail Ryfel Byd.

Cewch ddarllen amdano yn y pegasusarchive.