O ran canran y siaradwyr Llydaweg, ardaloedd Treger a Goueloù sydd ar y blaen, yn ôl ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi gan Ofis ar Brezhoneg. Mae tua 21.5% o bobl y broydd hynny yn medru Llydaweg.
Dyma’r cylch sydd hefyd ar y blaen o ran addysg Lydaweg, gyda 7.8% yn cael addysg ddwyieithog ar lefel gynradd. Eto i gyd, prin y gellir brolio bod y fro’n esiampl i neb, am nad agorwyd yr un ysgol Lydaweg gyhoeddus newydd yno er 2004.
Mae hefyd anghydbwysedd rhwng ardal Plistin (Plestin) a Kawan (Cavan), lle y mae dros 30% yn cael addysg gynradd ddwyieithog, a’r ardaloedd dwyreiniol, lle y mae gwir angen codi proffil yr iaith.
O ran addysg i oedolion, yn Pempoull (Paimpol) y gwelwyd y cynnydd mwyaf.
Dyma hefyd y fro lle y mae’r Llydaweg amlycaf mewn bywyd cyhoeddus, gydag un o bob tair cymuned wedi llofnodi Siarter ‘Ie i’r Llydaweg’.
Ffynhonnell – Da lenn, niverenn 24 – cyhoeddiad gan Ofis ar brezhoneg.
No comments:
Post a Comment