27/07/2009

Gororau Llydaw – Terfynau Hanes

Tan 3 Hydref, 2010, yn Kastell-Briant (Châteaubriant – Liger-Atlantel/Loire-Atlantique), mae arddangosfa gyhoeddus – a’r mynediad yn rhad ac am ddim – ar thema ‘Gororau Llydaw’. Mae dwy ran i’r arddangosfa: 1. pobl a 2. mannau hanesyddol.

A’r Llydawiaid, gan amlaf, heb astudio hanes eu gwlad a heb wybod ond ychydig iawn am eu hetifeddiaeth hanesyddol, mae’r trefnwyr, o dan arweiniad Elisabeth Loir-Mongazon, yn hyderu y bydd yn ennyn diddordeb llawer yn yr hyn sydd o’u cwmpas ac yn y bobl a’r digwyddiadau sydd yn rhan o hanes y ffin rhwng Llydaw a Ffrainc.

Cestyll caerog Llydaw sydd yn cael y prif sylw yn adran y mannau hanesyddol ac mae paneli gwybodaeth newydd dwyieithog wedi cael eu codi hefyd yng nghestyll Kastell-Briant a Klison (Clisson).

Gwefan yn Ffrangeg:
http://www.loire-atlantique.fr/cg44/jcms/c_77833/les-marches-de-bretagne-les-frontieres-de-lhistoire

No comments: