11/06/2009

Israddio lle’r Fasgeg yng Nghyfundrefn Addysg Euskadi

Mae Isabel Zelaa, Gweinidog Addysg Euskadi, wedi cyhoeddi y bydd pwyslais ar addysg dairieithog yn y wlad erbyn yr Hydref ac y bydd y drefn sydd yno eisoes, lle y rhoddir pwyslais yn anad dim ar y Fasgeg, yn diflannu. Myn, fodd bynnag, y bydd yn rhaid i bobl gydsynio i’r newidiadau ac y bydd cryn ryddid gan sefydliadau addysgol unigol. Yn ôl Isabel Zelaa, rhaid rhoi’r gorau i ‘orfodi a mynd dros ben llestri’ wrth gefnogi’r Fasgeg a meithrin ‘hoffter’ o’r iaith. Am y rheswm hwnnw, bydd yn diddymu unrhyw ddatganiadau blaenorol yr Adran Addysg a oedd yn cymryd y Fasgeg fel yr unig elfen allweddol yn y drefn.

http://www.berria.info/paperekoa/harian/2009-06-11/018/005/Hiru_eleko_hezkuntza_sistema_iragarri_du_Zelaak.htm

Mae lle i ofni y bydd llywodraeth y Blaid Sosialaidd yn tanseilio'r gwaith a wnaed i gryfhau'r Fasgeg, gan ddilyn polisïau cwbl aneffeithiol yn achos iaith fach, braidd fel y rhai sydd yma yng Nghymru... Yng Ngwlad y Basg, mae'n rhaid i'r Fasgeg gystadlu â'r Sbaeneg yn ogystal ag â'r Saesneg.

No comments: