26/06/2009

Cynnydd yn nifer y rhai sy'n medru Basgeg

Mae dadansoddiad diddorol o nifer y siaradwyr Basgeg yn ôl yn 2006 newydd ei gyhoeddi. (Ffigurau yw'r rhain i'r rhan i Euskadi, h.y. i'r rhan o Wlad y Basg sydd yn cael ei hadnabod gan Sbaen fel 'Gwlad y Basg', ac nid am y wlad gyfan.)Ceir bod 53.3% o boblogaeth Gipuzkoa yn medru Basgeg a Sbaeneg, sef 345,164 o bobl. Yn Bizkaia y ganran yw 31.3%, sef 338,228 o bobl. Dim ond 25% o drigolion Araba sy'n ddwyieithog, sef 72,248 o bobl.

Gyda golwg ar y trefi mawrion, mae 24.5% o bobl Gasteiz (Vittoria) yn medru'r ddwy iaith, er nad oedd y ganran ond yn 3.5% yn 1981. Bu cynnydd tebyg yn Bilbo (Bilbao), sef o 6.4% i 24.2%, tra bu i'r ganran bron â dyblu yn Donostia (San Sebastián) o 21.4% i 40.5%.

Mae'r defnydd o'r Fasgeg yn y cartref, meddir, wedi aros bron yn ddigyfnewid, ac eithrio'r cynnydd a fu rhwng brodyr a chwiorydd a ddysgodd yr iaith. Mae 21.4% o bobl Euskadi yn defnyddio'r Fasgeg gartref cymaint â'r Sbaeneg neu'n fwy na'r Sbaeneg. 53% yw'r ganran o'r rhai sy'n ddwyieithog ac sy'n defnyddio Basgeg cymaint neu'n fwy na'r Sbaeneg fel iaith y cartref .

Fel y gwyddom yng Nghymru, mae ffigurau fel y rhain yn gallu bod braidd yn gamarweiniol, yn enwedig wrth sôn am 'fedru'r iaith', gan mai 'medru siarad' y naill yw 'crap gwan' y llall, ac mae medru iaith heb ei defnyddio yn eithaf diystyr beth bynnag! Er nad cynnydd ydyw, efallai fod llwyddiant yr iaith i ddal ei thir yn y cartref dipyn yn fwy arwyddocaol na'r cynnydd mawr ymddangosiadol yn nifer y siaradwyr.

(Ffynhonnell y ffigurau: Berripapera, Mai 2009)

No comments: