04/06/2009

Cofio 'Tad ar Yezh' (Tad yr Iaith) - Frañsez Vallée

60 o flynyddoedd yn ôl, ar 3 Mehefin, 1949, bu farw Frañsez Vallée ('Abherve'), 'Tad ar Yezh', yn 89 oed. Mae'n briodol bod o leiaf nodyn byr i gofio amdano yma ar wefan Cymdeithas Cymru-Llydaw, nid yn unig am iddo wneud cymaint o waith i hyrwyddo'r Llydaweg ond hefyd am fod gan Gymru le arbennig iawn yn ei galon, ac yntau wedi ymroi i ddysgu ac i astudio'r Gymraeg.

Cafodd ei eni ar 26 Medi, 1860, yn Lokmaria, ym mhlwyf Plounevez-Moedeg, nid nepell o Benac'h (Bro-Dreger). Bu'n fregus ei iechyd ar hyd ei oes, ond llwyddodd i gael addysg brifysgol yn Roazhon, lle y bu'n dilyn darlithiau Joseph Loth. Ni chafodd fawr o flas ar astudio seineg gyda Loth ond 'roedd wrth ei fodd gyda'i gyflwyniad i'r Gymraeg a'i llenyddiaeth.

Prif waith Vallée oedd y geiriadur mawr Geriadur braz ar brezoneg, a luniodd ar y cyd gyda Meven Mordiern (Reun ar Rouz / Le Roux) ac Emil Ernod (Ernault), ac a gyhoeddwyd yn 1931. Benthyg oddi wrth y Gymraeg oedd un o'r dulliau a fabwysiadwyd ganddo wrth geisio estyn ffiniau geirfa draddodiadol yr iaith. Bu'n golygu cylchgrawn Llydaweg o'r enw Kroaz ar Vretoned, bu'n allweddol mewn sefydlu orgraff unffurf i dafodieithoedd Kernev, Leon a Treger, ac ymhlith ei gyhoeddiadau mae hefyd lyfr o ymadroddion Cymraeg a Llydaweg ochr yn ochr, i helpu Llydawiaid i ddysgu Cymraeg.

Gobeithir rhoi mwy o sylw i waith Vallée yn y rhifyn nesaf o Breizh / Llydaw (mis Awst 2009).

No comments: