24/04/2009

Yr atomfa na fynnai ddiffodd

Y capel ar ben Menez Mikael, Brasparzh (Brasparts), gyda'r llyn y saif yr atomfa ar ei glan, sef Mirlec'h-dour Sant Mikael (Cronfa ddŵr Sant Mikael), yn y pellter. Er mai atomfa o fath gwahanol i un Trawsfynydd sydd yn Brenniliz, mae'r safle, yng nghanol tiroedd gwylltaf Llydaw, yn hynod debyg.


Mae Brigitte Chevet newydd ryddhau ffilm ddogfen ar unig atomfa Llydaw, sef un Brenniliz (Brennilis). Ei theitl yw Brennilis, la centrale qui ne voulait pas s’éteindre (Brenniliz, yr atomfa na fynnai ddiffodd). Atomfa Dŵr Gwasgeddedig, un a gâi ei thymheru gan ddŵr trwm a’i hoeri gan asid carbonig o dan bwysedd, a oedd yn Brenniliz, ond fe’i caewyd ugain mlynedd yn ôl.

Mae Brenniliz yng nghanol rhostiroedd hardd Menez Are (Monts d’Arrée) yng Ngorllewin Llydaw, nid nepell o Kommanna (Commanna) ac An Uhelgoad (Huelgoat). Dyma fro lle y bu traddodiadau cryf am an Ankoù (yr Angau), sef personoliad o farwolaeth, ac mewn llyfr comig a gyhoeddwyd yn 1977, ac a gyfieithiwyd i Lydaweg, lleolwyd anturiaeth y cymeriadau cartŵn Spirou a Fantasio yno, gan gyfuno hanes am yr Atomfa fodern, fodern - ar y pryd - â thraddodiad oesol yr Angau â’i bladur!

Er na chynhyrchodd ond ychydig o drydan erioed, deil Atomfa Brenniliz i beri gofid i bobl y fro. Adeg ei chau,’roedd sôn am ddefnyddio’r gwaith datgymalu fel siampl i ddangos i’r byd beth a fyddai’n digwydd pan ddôi oes atomfeydd eraill yn Ffrainc i ben. Câi’r safle ei adfer, meddid, a byddai glaswellt yn tyfu eto ar lan y llyn yn lle’r concrit... ond nid felly y bu.

Cafwyd, fel sydd wedi digwydd o hyd yn hanes y diwydiant niwclear, fod y costau’n aruthrol. Yn 2006, yn ôl asesiad y Cour des Comptes, costiai’r gwaith datgymalu €482 miliwn, ugain gwaith yr hyn a ragdybiai’r rhai a oedd wedi datblygu’r safle.

Yn 2007, rhoddwyd terfyn ar y gwaith datgymalu, yn rhannol, hyd y deallaf, am fod y sylfaen goncrit yn galetach na’r disgwyl, ac yn ail am fod pryderon nad oedd y gwaith yn cael ei wneud yn iawn. Y cwmni cynhyrchu EDF (Trydan Ffrainc) a fu’n dadlygru’r adeilad ac yn clirio’r gwastraff niwclear o 1985 ymlaen, ond cafodd Criirad (Comisiwn ymchwil a gwybodaeth annibynnol ar ymbelydredd) fod elfennau ymbelydrol, sef plwtoniwm, cesiwm 137, ac actiniwm 227, y tu allan i’r atomfa, ar lan y llyn.

Yn ei ffilm newydd, myn Brigitte Chevet ei bod yn bryd cael astudiaeth epidemiolegol annibynnol ar drigolion ardal Brenniliz, am fod amryw hanesion am afiechyd yn y fro. ‘Bu hanner fy nghydweithwyr farw cyn cyrraedd eu 65 oed,’ meddai Michel Marzin, gŵr a fu’n beiriannydd yno.

Bydd DVD o’r ffilm ar werth cyn bo hir. Gweler: http://www.vivement-lundi.com/vivement_lundi/Brennilis.html

No comments: