19/02/2009

Llydawyr yn rhan o ddathliadau Gŵyl Ddewi - Caerdydd / Pontypridd - 2009

Bydd cynrychiolaeth gref o Lydaw yn 6ed Orymdaith Genedlaethol Gŵyl Ddewi eleni. O Plougastell-Daoulas, gorllewin Penn-ar-Bed (Finistère) y daw’r band cwdbib a drwm, BAGADIG PLOUGASTELL, ac o Kastell-Paol (St Pol de Léon) yng ngogledd yr un rhanbarth y daw’r dawnswyr ‘BLEUNIADUR’ yn eu gwisgoedd prydferth a lliwgar.Yn ogystal â chymryd rhan yn yr Orymdaith (a fydd yn cychwyn o’r Amgueddfa Genedlaethol, Parc Cathays, Caerdydd am 12pm, ddydd Sul, Mawrth 1) byddant hefyd yn perfformio yn AMGUEDDFA WERIN SAIN FFAGAN, ar ddydd Sadwrn, Chwefror 28, ac 'Y MUNI’, Pontypridd, ar nos Sadwrn, Chwefror 28 fel rhan o’r dathliadau Gŵyl Ddewi, ‘Taffyfest’.

No comments: