26/01/2009

Bydd rhifyn Chwefror 2009 o Breizh / Llydaw allan erbyn diwedd wythnos gyntaf y mis

Rhifyn amrywiol arall, a'r rhan fwyaf o'r darnau yn ddwyieithog, Cymraeg a Llydaweg - golwg ar waith y cantor Dom Duff, adolygiad ar lyfr gan Pierette Kermoal, cyfweliad â Liza Jacq, darnau ar draddodiad y Ddawns Angau, dehongliad newydd Owen Legg o'r traddodiad hwnnw, cyfieithiad o'r faled Ened Rosporden (Ynyd Rosporden), hanes stampiau hynod y daeth Jacqueline Gibson ar eu traws, atgofion am Port Creux ar Ynys Sark, llythyrau gan ddarllenwyr a lluniau o'r penwythnos yn Nant Gwrtheyrn... ac yn bwysig iawn, ceir hefyd gwis - deg cwestiwn, a chyfle i ennill naill ai baner Lydewig neu faner Gymreig.

Rhifyn teilwng i fod yn hanner canfed rhifyn y cylchgrawn a sefydlwyd yn y lle cyntaf â'r teitl Keleier Breizh / Newyddion Llydaw, o dan olygyddiaeth Tecwyn Evans.

No comments: