21/07/2008

Gwrthdystiad a gŵyl ddiwylliannol yn Naoned (Nantes)

Ar ddydd Sadwrn, 20 o fis Medi cynhelir cyfarfod miloedd o bobl yn Naoned (Nantes) i wrthdystio dros yr hawl i gadw ac i fynegi eu diwylliant a'u hieithoedd (hynny yw y Llydaweg a'r Galo), yn ogystal â thros dychwelyd département Liger-Atlantel (Loire Atlantique) i Lydaw a thros y gallu i weinyddu materion mewnol Llydaw. Bydd yn dechrau ar Blas Viarme am 2yp, i fynd ymlaen am 3yp.

Cynhelir fest-noz wedyn rhwng 6yh a 10yh, gyda Bagadoù, Cercles Celtiques, Nolwenn Korbell, Alan Stivell, Gilles Servat, Jean-Louis Jossic, Pascal Lamour, Blain/Leyzour, Iwan B, Yann-Fañch Kemener, Kanfarted Magor, Loereu Ru, Gwennyn a Patrice Marzin, Dédé Le Meut ac arweinyddion, Gweltaz Adeux, Sophie Le Hunsec ac Ar Baragouineurs. Ar y maes, wrth gwrs: bar, bwyd, stondinau cymdeithasau diwylliannol Llydaw.

No comments: